Sylwer fod y cymhwysiad hwn dan ddatblygiad. Os ydych chi'n gweld unrhyw gamgymeriadau neu os nad yw rhywbeth yn gweithio, cysylltwch â ni yn evidence.service@wales.nhs.uk.

Rhoi’r Gorau i Dybaco

Ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu

Mae'r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig at gorff cadarn, cyfoes o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau ynghylch rhoi'r gorau i ddefnyddio tybaco, yn unol â meysydd 2-4 o Gynllun Gweithredu’r Llywodraeth Cymru ar Reoli Tybaco. Gall ffynonellau sydd wedi'u cynnwys yn y map ddarparu tystiolaeth sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn canlynol: pa ymyriadau sy'n effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu?

Dyddiad y chwiliad diwethaf: Mehefin 2026. Diweddariad nesaf: Mehefin 2027

Sut i ddefnyddio'r map:

Mae adolygiadau a chanllawiau sy'n bodloni meini prawf cynnwys y map wedi'u categoreiddio yn ôl grŵp poblogaeth a’r math o ymyriad, ac maent wedi'u harddangos yn ddigidol ar y map gwres.

Gall adolygiadau ymddangos mewn sawl categori os ydynt yn cynnwys, er enghraifft, ymchwil ar sawl math o ymyriad, neu sawl grŵp poblogaeth. Mae'r lleoliadau y cynhaliwyd yr ymyriadau perthnasol a nodir yn yr adolygiadau wedi'u cofnodi ynghyd â'r canlyniadau perthnasol a fesurir yn yr adolygiad.

Gallwch ddefnyddio'r blychau hidlo ar frig y map i hidlo'r map gwres i ddangos adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau perthnasol a gynhaliwyd mewn lleoliadau penodol yn unig, neu adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau sy'n mesur canlyniad penodol.

Gallwch glicio ar bob blwch ar y map gwres i arddangos y rhestr o adolygiadau/canllawiau sy'n cynnwys tystiolaeth o fewn y categori hwnnw, ac yna clicio eto ar bob cyfeirnod i weld tudalen grynodeb ar gyfer yr adolygiad penodol hwnnw. Mae tudalennau crynodeb pob adolygiad yn cynnwys gwybodaeth megis amcanion yr adolygiad, y canfyddiadau a’r casgliadau, a dynnwyd o’r cyhoeddiad yn uniongyrchol.

Nid ydym wedi cynnal ein crynhoad neu ddehongliad ein hunain o'r canfyddiadau, ond yn hytrach wedi arddangos canfyddiadau a chasgliadau gwreiddiol yr awduron fel y gall y rhai sy'n edrych ar y map gael cipolwg ar yr ymchwil, er mwyn penderfynu a ydynt am archwilio'r ffynhonnell ymhellach.

Dim ond canfyddiadau adolygiadau sy'n berthnasol i bwnc y map hwn yn benodol sydd wedi'u categoreiddio, felly efallai y byddwch yn gweld bod yr adolygiadau'n cwmpasu ystod ehangach o bynciau, ac yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad oedd yn bodloni meini prawf o ran cynnwys y map hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r mapiau'n cael eu datblygu a'r ffynonellau dibynadwy yr ydym yn ymgynghori â nhw ar gael yn yr adran Amdanom ni.

Mae diffiniadau o'r grwpiau poblogaeth, y mathau o ymyriadau, y lleoliadau a'r canlyniadau a ddefnyddir i gategoreiddio tystiolaeth yn y map hwn ar gael yn ein Rhestr Termau.

Cyfyngiadau’r map:

map wedi'i gynllunio i gyfeirio defnyddwyr at dystiolaeth ymchwil sydd wedi'i chrynhoi mewn ffordd y gwyddwn ei bod yn gadarn o ran methodoleg, a gall, felly, fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau arni. Fodd bynnag, mae ein chwiliadau wedi'u targedu ac nid ydynt yn gyflawn nac yn gynhwysfawr. Dylid defnyddio’r adolygiadau sydd ynddo fel rhan o strategaeth ehangach i gasglu tystiolaeth, ac nid eu defnyddio'n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach i’w perthnasedd i Gymru.

Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae'r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi'u cynnwys chwaith. Mae ystod gyfyng y ffynonellau a chwiliwyd yn ei gwneud hi'n debygol y byddai chwiliadau cynhwysfawr ychwanegol o gronfeydd data llyfryddol yn nodi ystod ehangach o adolygiadau. Byddem yn cynghori bod adolygiadau ychwanegol a nodir gennych yn cael eu harfarnu’n feirniadol i gadarnhau eu hansawdd methodolegol.

Sylwch, efallai y bydd angen i chi sgrolio'n llorweddol i weld yr holl gategorïau o dystiolaeth yn y tabl.

Grwpiau Poblogaeth

Ymyriadau

Oedolion Plant ac Oedolion Ifanc Y boblogaeth yn gyffredinol Hanes blaenorol o gamddefnyddio sylweddau Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes Beichiogrwydd / ôl-esgor Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig Milwrol / cyn-filwrol Carcharor / cyn-garcharor Digartref
Bupropion

Bupropion - Oedolion

Bupropion - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Bupropion - Carcharor / cyn-garcharor

Varenicline

Varenicline - Oedolion

Varenicline - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Varenicline - Carcharor / cyn-garcharor

Cytisinicline (Cytisine)

Cytisinicline (Cytisine) - Plant ac Oedolion Ifanc

Cytisinicline (Cytisine) - Y boblogaeth yn gyffredinol

Cytisinicline (Cytisine) - Milwrol / cyn-filwrol

Cytisinicline (Cytisine) - Carcharor / cyn-garcharor

Therapi Amnewid Nicotin

Therapi Amnewid Nicotin - Oedolion

Therapi Amnewid Nicotin - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Therapi Amnewid Nicotin - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Therapi Amnewid Nicotin - Carcharor / cyn-garcharor

Ffarmacotherapïau eraill

Ffarmacotherapïau eraill - Carcharor / cyn-garcharor

Cydau nicotin

Cydau nicotin - Plant ac Oedolion Ifanc

Cydau nicotin - Y boblogaeth yn gyffredinol

Cydau nicotin - Hanes blaenorol o gamddefnyddio sylweddau

Cydau nicotin - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Cydau nicotin - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Cydau nicotin - Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Cydau nicotin - Milwrol / cyn-filwrol

Cydau nicotin - Carcharor / cyn-garcharor

Cydau nicotin - Digartref

Systemau Dosbarthu Nicotin Electronig

Systemau Dosbarthu Nicotin Electronig - Milwrol / cyn-filwrol

Systemau Dosbarthu Nicotin Electronig - Carcharor / cyn-garcharor

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Oedolion

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Hanes blaenorol o gamddefnyddio sylweddau

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Milwrol / cyn-filwrol

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Carcharor / cyn-garcharor

Therapïau rhoi'r gorau i ysmygu amgen - Digartref

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Y boblogaeth yn gyffredinol

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Hanes blaenorol o gamddefnyddio sylweddau

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Milwrol / cyn-filwrol

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Carcharor / cyn-garcharor

Ymyriadau Rhoi'r Gorau i Ysmygu Cyffredinol - Digartref

Cymorth Ymddygiad

Cymorth Ymddygiad - Oedolion

Cymorth Ymddygiad - Y boblogaeth yn gyffredinol

Cymorth Ymddygiad - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Cymorth Ymddygiad - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Cymorth Ymddygiad - Carcharor / cyn-garcharor

Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Therapi Ymddygiad Gwybyddol - Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Therapi Ymddygiad Gwybyddol - Carcharor / cyn-garcharor

Deunyddiau Hunangymorth

Deunyddiau Hunangymorth - Carcharor / cyn-garcharor

Cyfweld ysgogiadol

Cyfweld ysgogiadol - Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig

Cyfweld ysgogiadol - Carcharor / cyn-garcharor

Therapïau seicogymdeithasol eraill

Therapïau seicogymdeithasol eraill - Carcharor / cyn-garcharor

Aml-gydran

Aml-gydran - Oedolion

Aml-gydran - Y boblogaeth yn gyffredinol

Aml-gydran - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Aml-gydran - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Aml-gydran - Carcharor / cyn-garcharor