Sylwer fod y cymhwysiad hwn dan ddatblygiad. Os ydych chi'n gweld unrhyw gamgymeriadau neu os nad yw rhywbeth yn gweithio, cysylltwch â ni yn evidence.service@wales.nhs.uk.

Tybaco

Ymyriadau atal a dadnormaleiddio

Mae’r map hwn yn nodi ac yn amlinellu’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud ag atal (lleihau’r nifer sy’n manteisio) a dadnormaleiddio (lleihau derbynioldeb) defnyddio tybaco, yn unol â meysydd 2 a 4 o Gynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco Llywodraeth Cymru.

Dyddiad y chwiliad diwethaf: Awst 2026. Disgwylir y diweddariad nesaf: Awst 2027.

Sut i ddefnyddio'r map:

Mae adolygiadau a chanllawiau sy'n bodloni meini prawf cynnwys y map wedi'u categoreiddio yn ôl grŵp poblogaeth a’r math o ymyriad, ac maent wedi'u harddangos yn ddigidol ar y map gwres.

Gall adolygiadau ymddangos mewn sawl categori os ydynt yn cynnwys, er enghraifft, ymchwil ar sawl math o ymyriad, neu sawl grŵp poblogaeth. Mae'r lleoliadau y cynhaliwyd yr ymyriadau perthnasol a nodir yn yr adolygiadau wedi'u cofnodi ynghyd â'r canlyniadau perthnasol a fesurir yn yr adolygiad.

Gallwch ddefnyddio'r blychau hidlo ar frig y map i hidlo'r map gwres i ddangos adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau perthnasol a gynhaliwyd mewn lleoliadau penodol yn unig, neu adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau sy'n mesur canlyniad penodol.

Gallwch glicio ar bob blwch ar y map gwres i arddangos y rhestr o adolygiadau/canllawiau sy'n cynnwys tystiolaeth o fewn y categori hwnnw, ac yna clicio eto ar bob cyfeirnod i weld tudalen grynodeb ar gyfer yr adolygiad penodol hwnnw. Mae tudalennau crynodeb pob adolygiad yn cynnwys gwybodaeth megis amcanion yr adolygiad, y canfyddiadau a’r casgliadau, a dynnwyd o’r cyhoeddiad yn uniongyrchol.

Nid ydym wedi cynnal ein crynhoad neu ddehongliad ein hunain o'r canfyddiadau, ond yn hytrach wedi arddangos canfyddiadau a chasgliadau gwreiddiol yr awduron fel y gall y rhai sy'n edrych ar y map gael cipolwg ar yr ymchwil, er mwyn penderfynu a ydynt am archwilio'r ffynhonnell ymhellach.

Dim ond canfyddiadau adolygiadau sy'n berthnasol i bwnc y map hwn yn benodol sydd wedi'u categoreiddio, felly efallai y byddwch yn gweld bod yr adolygiadau'n cwmpasu ystod ehangach o bynciau, ac yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad oedd yn bodloni meini prawf o ran cynnwys y map hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r mapiau'n cael eu datblygu a'r ffynonellau dibynadwy yr ydym yn ymgynghori â nhw ar gael yn yr adran Amdanom ni.

Mae diffiniadau o'r grwpiau poblogaeth, y mathau o ymyriadau, y lleoliadau a'r canlyniadau a ddefnyddir i gategoreiddio tystiolaeth yn y map hwn ar gael yn ein Rhestr Termau.

Cyfyngiadau’r map:

map wedi'i gynllunio i gyfeirio defnyddwyr at dystiolaeth ymchwil sydd wedi'i chrynhoi mewn ffordd y gwyddwn ei bod yn gadarn o ran methodoleg, a gall, felly, fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau arni. Fodd bynnag, mae ein chwiliadau wedi'u targedu ac nid ydynt yn gyflawn nac yn gynhwysfawr. Dylid defnyddio’r adolygiadau sydd ynddo fel rhan o strategaeth ehangach i gasglu tystiolaeth, ac nid eu defnyddio'n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach i’w perthnasedd i Gymru.

Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae'r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi'u cynnwys chwaith. Mae ystod gyfyng y ffynonellau a chwiliwyd yn ei gwneud hi'n debygol y byddai chwiliadau cynhwysfawr ychwanegol o gronfeydd data llyfryddol yn nodi ystod ehangach o adolygiadau. Byddem yn cynghori bod adolygiadau ychwanegol a nodir gennych yn cael eu harfarnu’n feirniadol i gadarnhau eu hansawdd methodolegol.

Sylwch, efallai y bydd angen i chi sgrolio'n llorweddol i weld yr holl gategorïau o dystiolaeth yn y tabl.

Grwpiau Poblogaeth

Ymyriadau

Oedolion Plant a Phobl ifanc Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes Beichiogrwydd / ôl-esgor
Ymyriadau Digidol

Ymyriadau Digidol - Oedolion

Ymyriadau Digidol - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Ymyriadau Digidol - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Ymyriadau addysgol

Ymyriadau addysgol - Oedolion

Ymyriadau addysgol - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Ymyriadau addysgol - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Ymyriadau cyfryngau

Ymyriadau cyfryngau - Oedolion

Ymyriadau cyfryngau - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Ymyriadau cyfryngau - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Cymhellion / Cystadlaethau

Cymhellion / Cystadlaethau - Oedolion

Cymhellion / Cystadlaethau - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Cymhellion / Cystadlaethau - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Ymyriadau newid ymddygiad

Ymyriadau newid ymddygiad - Oedolion

Ymyriadau newid ymddygiad - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Ymyriadau newid ymddygiad - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Polisïau / Deddfwriaeth di-smygu

Polisïau / Deddfwriaeth di-smygu - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Polisïau / Deddfwriaeth di-smygu - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Newidiadau Amgylcheddol

Newidiadau Amgylcheddol - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Newidiadau Amgylcheddol - Beichiogrwydd / ôl-esgor

Newidiadau Amgylcheddol: Cydymffurfiaeth ymhlith manwerthwyr

Newidiadau Amgylcheddol: Cydymffurfiaeth ymhlith manwerthwyr - Oedolion

Newidiadau Amgylcheddol: Cydymffurfiaeth ymhlith manwerthwyr - Plant a Phobl ifanc

Newidiadau Amgylcheddol: Cydymffurfiaeth ymhlith manwerthwyr - Chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes

Newidiadau Amgylcheddol: Cydymffurfiaeth ymhlith manwerthwyr - Beichiogrwydd / ôl-esgor