Sylwer fod y cymhwysiad hwn dan ddatblygiad. Os ydych chi'n gweld unrhyw gamgymeriadau neu os nad yw rhywbeth yn gweithio, cysylltwch â ni yn evidence.service@wales.nhs.uk.
Please note: this map is currently a beta version and feedback is encouraged before finalisation. Please send any feedback to evidence.service@wales.nhs.uk
Nod y map tystiolaeth digidol hwn yw dwyn ynghyd ymchwil lefel eilaidd gyfredol sydd o safon fethodolegol dda ar ymyriadau i wella ymddygiadau deietegol ymhlith oedolion, a threfnu’r ymchwil honno. Mae'n cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y pyramid tystiolaeth, h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd mewn modd cadarn a chanllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i roi mynediad i ymarferwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy, sy’n gadarn o ran ei methodoleg, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.
Fe'i datblygwyd i gefnogi ymchwilwyr, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy'n gweithio, i bwy ac ym mha gyd-destun.
Gwnaed chwiliadau ar un deg chwech o gronfeydd data/gwefannau (a nodir yn y protocol map, sydd ar gael ar gais) am ganllawiau ac adolygiadau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio methodoleg gadarn sy'n glynu wrth egwyddorion adolygu systematig. Mae'r chwiliad wedi'i gyfyngu i'r ffynonellau hyn gan ein bod yn hyderus bod adolygiadau a chanllawiau sydd wedi'u cynnwys ynddynt neu a gynhyrchwyd ganddynt yn defnyddio methodoleg gadarn. Mae hyn yn golygu bod yr holl ffynonellau sydd wedi'u cynnwys yn y map wedi defnyddio strategaeth chwilio gynhwysfawr a thryloyw, wedi dewis ffynonellau yn seiliedig ar feini prawf penodol, ac wedi asesu'r risg o duedd yn y prif astudiaethau sydd wedi'u cynnwys ynddynt.
Mae adolygiadau a chanllawiau sy'n bodloni meini prawf cynnwys y map wedi'u categoreiddio yn ôl grŵp poblogaeth a’r math o ymyriad, ac maent wedi'u harddangos yn ddigidol ar y map gwres. Gall adolygiadau ymddangos mewn sawl categori os ydynt yn cynnwys, er enghraifft, ymchwil ar sawl math o ymyriad, neu sawl grŵp poblogaeth. Rydym hefyd wedi cynnwys y lefel darged o ymyriadau fel rhan o'n dull categoreiddio, yn y fformat canlynol:
Mae'r lefelau targed eang hyn wedi'u hechdynnu o fodel cymdeithasol-ecolegol a ddefnyddiwyd yn flaenorol mewn adolygiad systematig a oedd yn asesu ymyriadau o ran cymeriant diodydd wedi'u melysu â siwgwr ( Lane H, et al. 2016) (Saesneg yn unig).
Mae'r lleoliadau y cynhaliwyd yr ymyriadau perthnasol a nodir yn yr adolygiadau wedi'u cofnodi ynghyd â'r canlyniadau perthnasol a fesurir yn yr adolygiad. Gallwch ddefnyddio'r blychau hidlo ar frig y map i hidlo'r map gwres i ddangos adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau perthnasol a gynhaliwyd mewn lleoliadau penodol yn unig, neu adolygiadau sy'n cynnwys astudiaethau sy'n mesur canlyniad penodol h.y. cymeriant ffrwythau a llysiau, cymeriant diodydd wedi'u melysu â siwgr, ac ati.
Gallwch glicio ar bob blwch ar y map gwres i arddangos y rhestr o adolygiadau/canllawiau sy'n cynnwys tystiolaeth o fewn y categori hwnnw, ac yna clicio eto ar bob cyfeirnod i weld tudalen grynodeb ar gyfer yr adolygiad penodol hwnnw. Mae tudalennau crynodeb pob adolygiad yn cynnwys gwybodaeth megis amcanion yr adolygiad, y canfyddiadau a’r casgliadau, a dynnwyd o’r cyhoeddiad yn uniongyrchol. Nid ydym wedi cynnal ein crynhoad neu ddehongliad ein hunain o'r canfyddiadau, ond yn hytrach wedi arddangos canfyddiadau a chasgliadau gwreiddiol yr awduron fel y gall y rhai sy'n edrych ar y map gael cipolwg ar yr ymchwil, er mwyn penderfynu a ydynt am archwilio'r ffynhonnell ymhellach. Dim ond canfyddiadau adolygiadau sy'n berthnasol i bwnc y map hwn yn benodol sydd wedi'u categoreiddio, felly efallai y byddwch yn gweld bod yr adolygiadau'n cwmpasu ystod ehangach o bynciau, ac yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad oedd yn bodloni meini prawf o ran cynnwys y map hwn.
Mae'r map wedi'i gynllunio i gyfeirio defnyddwyr at dystiolaeth ymchwil sydd wedi'i chrynhoi mewn ffordd y gwyddwn ei bod yn gadarn o ran methodoleg, a gall, felly, fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau arni. Fodd bynnag, mae ein chwiliadau wedi'u targedu ac nid ydynt yn gyflawn nac yn gynhwysfawr. Felly, nid yw’r dystiolaeth yn y map yn cynrychioli’r sail dystiolaeth gyfan ar gyfer ymyriadau sy'n anelu at newid ymddygiadau deietegol. Dylid defnyddio’r adolygiadau sydd ynddo fel rhan o strategaeth ehangach i gasglu tystiolaeth, ac nid eu defnyddio'n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach i’w perthnasedd i Gymru.
Gan mai cyfosod tystiolaeth eilaidd yn unig o ystod gyfyngedig o ffynonellau y mae'r map, dylai defnyddwyr nodi ei bod yn bosib nad oes ymyriadau newydd neu fwy arloesol nad ydynt wedi bod yn destun cyfosod tystiolaeth gadarn eto wedi'u cynnwys chwaith. Mae ystod gyfyng y ffynonellau a chwiliwyd yn ei gwneud hi'n debygol y byddai chwiliadau cynhwysfawr ychwanegol o gronfeydd data llyfryddol yn nodi ystod ehangach o adolygiadau. Byddem yn cynghori bod adolygiadau ychwanegol a nodir gennych yn cael eu harfarnu’n feirniadol i gadarnhau eu hansawdd methodolegol. Mae'r map hwn hefyd wedi'i gyfyngu i oedolion, felly nid oes tystiolaeth ar gyfer ymyriadau bwyta'n iach ymhlith plant yn cael ei nodi.
Sylwch, efallai y bydd angen i chi sgrolio'n llorweddol i weld yr holl gategorïau o dystiolaeth yn y tabl.